Newyddion diweddaraf

Neil McEvoy AC yn gorfodi pleidlais i achub gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Mae Arweinydd Plaid Genedlaethol Cymru, Neil McEvoy AC, wedi gorfodi’r llywodraeth Lafur i bleidleisio ar welliant a allai achub gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Mae dros 9,000 o bobl eisoes wedi llofnodi deiseb i Bwyllgor Deisebau’r Senedd yn galw ar i Lywodraeth Cymru ymyrryd i ddiogelu gwasanaethau. Mae Mr McEvoy yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau ac mae wedi nodi ei fod yn cefnogi’r ymgyrchwyr yn eu brwydr i ddiogelu gwasanaethau lleol.
Darllenwch fwy

Ymgyrchwyr Dieithrio Rhieni yn cwrdd â Barnwr yr Uchel Lys yn yr Adran Deulu
Symudodd yr ymgyrch i fynd i’r afael â phwnc Dieithrio Rhieni ymlaen eto yr wythnos ddiwethaf. Yn dilyn cyfarfod blaenorol gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Paul Maynard AS, cyfarfu grŵp o wleidyddion ac ymgyrchwyr trawsbleidiol: Neil McEvoy AC, Ivan Lewis AS ac Andrew Bridgen AS, â Syr Stephen Cobb - Barnwr uchel Lys yn yr Adran Deulu i drafod Dieithrio Rhieni. Mae Syr Stephen yn aelod o Banel Ymchwilio Diogelu y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r un a luniodd y cynigion diweddaraf gan lywydd yr Adran Deulu - Syr Andrew McFarlane - ar Gyfraith Breifat.
Darllenwch fwy

Peidied llywodraeth Cymru ag anwybyddu gofid yr heddlu am y gwaharddiad smacio
Mae Neil McEvoy, AC Annibynnol dros Ganol De Cymru, wedi galw ar y llywodraeth i bedio anwybyddu gofidiau am y gwarharddiad smacio. Wrth gyfeirio at lythyr oddiwrth un o swyddogion uchel yr heddlu anfonwyd at Aelodau’r Cynnulliad yr wythnos hon (gweler isod), dywedodd Mr McEvoy, “Mae pryderon go iawn am sut i weithredu’r gwaharddiad smacio arfaethedig. Mae yma swyddog heddlu profiadol yn ysgrifennu at Aelodau’r Cynulliad i ddweud fod y mwyafrif o swyddogion yn meddwl mai peath peryglys fyddai tynnu swyddogion rheng flaen i honiadau fod mam wedi rhoi tap i’w phlentyn bach ar y pen ôl, neu’n wir, rhieni yn gyffredinol yn gwneud hyn. Ni does ganddynt amser am hyn. Fel y dywed, “Mae’r rheng flaen yn gwegian yn barod.””
Darllenwch fwy