Amdanaf i

neil_winning_cropped.JPG

Cefais fy ethol gyntaf fel Cynghorydd i ward Glanyrafon yng Nghaerdydd ym 1999. Yn ddiweddarach, enillais sedd y Cyngor dros Blaid Cymru yn y Tyllgoed a chefais fy ail-ethol yn 2012 a 2017, gan gynyddu’r mwyafrif. Fi oedd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd rhwng 2008-12, lle lleihaodd gweinyddiaeth y Blaid nifer y cyfarwyddwyr corfforaethol a’u cyflogau oedd cyhyd â rhifau teliffon. Amddiffynnodd y Blaid wasanaethau, agorodd 6 ysgol Gymraeg newydd, a thalu am un arall.

Yng Nghaerdydd y cefais fy magu. Ar ochr fy man, mae  ‘nheulu yn dod o’r Dociau. Fel llawer o bobl o’r Dociau, symudodd fy nhad-cu yn wreiddiol i Gymru o’r Yemen.  Ar ochr fy nhad, daw fy nheulu o Loegr ac Iwerddon - oddi yno y daw’r enw McEvoy. Llefydd gwahanol iawn, ond yng Nghymru, a’ phrifddinas ardderchog Cymru, y daeth fy nheulu ynghyd a dod o hyd i’w gilydd.

Fe weithiais fel athro, gan arbenigo mewn ieithoedd modern. Yn nes ymlaen, bûm yn dysgu plant oedd wedi cael eu troi allan o’r ysgol neu allai ddim mynd i’r ysgol am wahanol resymau. Dysgodd y profiad hwnnw wers i mi am beidio byth â rhoi’r gorau i bobl, waeth faint o bobl eraill oedd wedi rhoi’r gorau iddynt hwy.

Yn 2016, cefais fy ethol yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ganol De Cymru. Mae’r ardal honno yn cynnwys Caerdydd i gyd, Bro Morgannwg, Pontypridd, Rhondda a Chwm Cynon. Sefais hefyd yng Ngorllewin Caerdydd, gan fwy na dyblu pleidlais y Blaid yn yr etholaeth a throi Gorllewin Caerdydd yn sedd y gellir ei hennill.

Rwyf yn awr yn eistedd ar y Pwyllgor Deisebau yn y Cynulliad Cenedlaethol ac eisteddais gynt ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Y tu allan i wleidyddiaeth, rwy’n briod, mae gen i un ferch hyfryd, ac yr wyf yn gefnogwr selog clwb pêl-droed Dinas Caerdydd ac o focsio.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.