Pasiwyd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) gan Gyngor Caerdydd dan arweiniad Llafur wedi iddynt fynd i mewn i etholiad gan honni eu bod eisiau amddiffyn caeau gleision.
Labour's development plan for south Wales:
β Neil McEvoy AM (@neiljmcevoy) February 9, 2019
πππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππππ
We need a regional approach where infrastructure is put in first. pic.twitter.com/OMmJXPuG7C
Ymhen misoedd o gael eu hethol i Gyngor Caerdydd, cyhoeddodd Llafur gynlluniau i adeiladu degau o filoedd o dai ar gaeau gleision, yn bennaf yng ngorllewin Caerdydd. Maeβr tai hyn yn rhy ddrud o lawer iβr rhan fwyaf o bobl leol fforddio. Yr wyf wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y cynlluniau hyn byth ers i mi glywed amdanynt.
Heb fawr ddim seilwaith yn ei le, maeβr CDLL hefyd yn debygol o arwain at filoedd o geir yn ychwanegol ar y ffyrdd a phwysau mawr ar lefydd mewn meddygfeydd.
Allwn ni ddim atal cam cyntaf y datblygiad yn awr gan ei fod eisoes yn cael ei godi.
Ond gallwn atal y camau nesaf er mwyn amddiffyn y caeau gleision sydd weddill a chadw miloedd o geir yn ychwanegol oddi ar y ffyrdd. Os ydych eisiau cymryd rhan yn yr ymgyrch i wrthdroiβr CDLL Β neu gael y newyddion diweddaraf, yna cliciwch βymunoβ isod a llenwi eich manylion.