Mae Neil McEvoy AC wedi cyflwyno cynnig swyddogol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn galw ar Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru i ryddhau adroddiad yr ymchwiliad i’r posibilrwydd fod gwybodaeth wedi ei ryddhau yn ystod ad-drefnu’r Gweinidogion ym mis Tachwedd 2017. Canlyniad yr ad-drefnu oedd i’r cyn-Ysgrifennydd Cabinet, Carl Sargeant, golli ei swydd.
Bu sibrydion ar led fod manylion am yr ad-drefnu wedi’u rhyddhau cyn iddo ddigwydd. Ym mis Chwefror 2018, honnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, fod cwmni lobïo wedi darparu’r wybodaeth.
Cyflwynir y cynnig i Bwyllgor Busnes y Cynulliad Cenedlaethol ar ôl gwyliau’r Pasg.
Hyd yma, gwrthododd yr Ysgrifennydd Parhaol ryddhau’r adroddiad, na chafodd unrhyw dystiolaeth fod gwybodaeth wedi ei ryddhau dan awdurdod yn ymwneud â’r ad-drefnu. O ganlyniad, pleidleisiodd y Cynulliad Cenedlaethol i’r adroddiad gael ei ryddhau trwy gynnig nad oedd yn rhwymo. Ond anwybyddwyd y cynnig hwnnw.
Cyflwynodd Neil McEvoy AC Gynnig Dim Diwrnod a Enwyd sy’n cyfeirio at Adran 37 Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r Adran yn caniatáu i’r Cynulliad fynnu bod unrhyw unigolyn yn cynhyrchu at ddibenion y Cynulliad unrhyw ddogfen yn ei h/eiddo. Cuddir enwau er mwyn gwarchod cyfrinachedd unrhyw bobl a roes dystiolaeth i’r ymchwiliad.
Nid yw’r pŵer hwn gan y Cynulliad erioed wedi ei ddefnyddio o’r blaen, a byddai’r tro cyntaf i hyn gael ei wneud yn neddfwrfa Cymru.
All #Senedd Parties & AMs need to get behind my motion to compel the Permanent Secretary to publish the Report into the leaks about Carl Sargeant. #RespectWales
— Neil McEvoy AM (@neiljmcevoy) March 21, 2018
Wrth sôn am y cynnig hwn, dywedodd Mr McEvoy AC:
“Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn honni eu bod yn agored ac yn dryloyw, ond mae’r Ysgrifennydd Parhaol yn parhau i wrthod rhyddhau ycmwhiliad syd dyn amlwg er budd y cyhoedd.
“Mae gan bobl yng Nghymru yr hawl i weld yr ymchwiliad hwn a dyna pam fy modd wedi defnyddio Deddf Llywodraeth Cymru i fynnu ei fod yn cael ei ryddhau. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi anwybyddu un alwad gan gynrychiolwyr etholedig democrataidd Cymru. Rwy’n gobeithio yn awr y bydd Aelodau Cynulliad o bob plaid yn cefnogi’r cynnig fel y gallwn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn agored.
“Mae cymaint o gwestiynau o hyd ynghylch yr ad-drefnu dadleuol a ddigwyddodd ym mis Tachwedd 2017. Ond yn hytrach na helpu i ateb y cwestiynau hynny, ymddengys bod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o fod yn gyfrinachol. Nid fel hyn mae Llywodraeth yn gweithredu. Mae angen i Lafur dod allan o’r cysgodion.”
Dyma destun cynnig Mr McEvoy AC:
‘Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan weithredu yn unol ag Adran 37(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn ei gwneud yn ofynnol bod Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru yn paratoi, at ddibenion y Cynulliad, gyda golygiadau priodol i sicrhau bod tystion yn aros yn anhysbys, adroddiad yr ymchwiliad ynghylch a oedd unrhyw dystiolaeth y cafodd gwybodaeth ei rhannu o flaen llaw heb ganiatâd mewn perthynas â'r ad-drefnu Gweinidogol ym mis Tachwedd 2017.’
Diwedd.
Nodiadau:
- Andrew RT Davies yn honni fod cwmni lobïo wedi rhoi gwybodaeth am ad-drefnu http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-43224957
- Uwch-was sifil yn gwrthod rhyddhau adroddiad golygedig a ryddhawyd am Carl Sargeant http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-43428921
- Adran 37 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2006/32/section/37
- Cynnig Dim Dyddiad a Enwyd gan Neil McEvoy AC http://record.assembly.wales/OrderPaper/Motions/21-03-2018?type=NNDM