Mae Neil McEvoy wedi ysgrifennu at fwrdd CNC i fynnu atebion am ddiogelwch mwd sydd i’w garthu o’r tu allan i Adweithydd Niwclear Hinkley Nuclear a’i ddympio wedyn yn nyfroedd Cymru.
Mae miloedd o ymgyrchwyr wedi llofnodi deiseb yn erbyn y cynlluniau gydag Aelodau Cynulliad eraill yn awr yn ychwanegu eu lleisiau am atal y drwydded i ddympio’r mwd.
Mae miloedd o ymgyrchwyr wedi llofnodi deiseb yn erbyn y cynlluniau gydag Aelodau Cynulliad eraill yn awr yn ychwanegu eu lleisiau am atal y drwydded i ddympio’r mwd.
Dygodd Mr McEvoy y cynllun i ddympio’r mwd yn gyntaf i sylw’r byd pan heriodd Ysgrifennydd Llafur yr Amgylchedd ynghylch y drwydded ym Medi 2017. Ers hynny, mae dros 100,000 o bobl wedi llofnodi deisebau yn galw am fwy o brofion.
Derbyniodd deiseb at Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddigon o lofnodion i orfodi dadl mewn sesiwn lawn, lle cyhuddodd Neil McEvoy yr Ysgrifennydd Amgylchedd o adael i Gymru gymryd mwd Lloegr a allai fod yn niwclear, heb gael dim yn gyfnewid.
Fodd bynnag, mae Cyfoeth Naturiol Cymru, y corff sydd i fod i warchod yr amgylchedd yng Nghymru, wedi gwrthod atal y drwydded. Yr oedd dympio’r mwd i fod i gychwyn ar 16 Awst, ond adroddwyd yn ddiweddarach y byddai dympio’r mwd yn cael ei oedi tan fis Medi o leiaf.
Mae Neil McEvoy yn awr yn mynnu bod y drwydded ei hun yn cael ei hatal ac wedi galw ar fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru i ddefnyddio Egwyddor Rhagofal, fel sydd yn Erthygl 191 y Cytundeb am Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.
Meddai Neil McEvoy AC:
“Rwy’n pryderu am nad wyf yn credu bod digon o brofion wedi eu cynnal.
“Rydym yn sôn am fwd yn cael ei garthu o’r tu allan i adweithydd niwclear ac y mae CNC yn dibynnu ar brofion bas gan ddefnyddio un math o sbectrometreg yn unig. Pan gynhaliwyd profion ar fwd a allai fod yn niwclear yn Kosovo defnyddiwyd 3 dull o spectrometreg gamma, spectrometreg beta a sbectrometreg mas plasma, ac eto, un o’r dulliau hyn yn unig a ddefnyddiwyd ar y mwd o’r tu allan i Hinkley. Pam nad yw’r hyn oedd yn ddigon da i Kosovo heb fod yn ddigon da i Gymru?
“Os oes unrhyw beth yn llechu yn y mwd hwn, yn ddwfn y bydd. Ond ni wnaed fawr ddim profion dwfn ac yr oedd hynny, hyd yn oed, ddeng mlynedd yn ôl, gyda’r data amrwd bellach ar goll.
“Mae angen i ni ddefnyddio Egwyddor Rhagofal, fel sydd yn Erthygl 191 y Cytundeb am Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, ac atal y drwydded fel mater o frys hyd nes bod profion cywir a thrylwyr wedi eu cynnal. Nid wyf yn credu, hyd nes y caiff ei brofi, fod y mwd hwn yn ddiogel y tu hwnt i unrhyw amheuaeth.”