Mae Neil McEvoy AC wedi cadarnhau ei fod wedi apelio yn erbyn ei atal o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Dan reolau sefydlog Plaid Cymru, gall Aelod Cynulliad a ataliwyd o grŵp y Cynulliad apelio at Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid i gael ei ail-dderbyn.
Deellir y bydd y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol yn gwrando ar apêl Mr McEvoy ganol Tachwedd.
Meddai Neil McEvoy AC:
“Rwyf wedi apelio at Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Cymru i gael fy ail-dderbyn i grŵp y Cynulliad Cenedlaethol. Rwyf hefyd wedi hysbysu’r Cadeirydd, y Prif Weithredwr a Phrif Chwip grŵp y Cynulliad o’m penderfyniad.
“Trwy’r apêl hon, rwy’n gobeithio medru dychwelyd yn gadarnhaol i grŵp Plaid Cymru”.