Mae’r Grŵp Newydd yma o’r diwedd a chaiff ei lansio ar 21 Mai yn Neuadd Fawr Gwesty’r Gyfnewidfa Lo, Caerdydd.
Bydd y drysau ar agor o 6:30pm ymlaen i gychwyn am 7pm.
Ymysg y siaradwyr a gadarnhawyd mae:
- Bethan Phillips (Ymgyrchydd o Gastell Nedd)
- Heledd Gwyndaf
- Neil McEvoy, Aelod Cynulliad Canol De Cymru
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond rhaid i chi gofrestru trwy ddefnyddio’r ddolen isod.
Mae lansio’r Grŵp Newydd hwn yn ennyd gyffrous a hanesyddol i’r mudiad cenedlaethol Cymreig. Wnaiff neb newid Cymru drosom. Rhaid i ni ddod at ein gilydd a gwneud hynny ein hunain.
Wedi’r lansio, bydd gennym gyfrwng newydd i bwyso am sofraniaeth unigol, gymunedol a chenedlaethol i Gymru.
Edrychaf ymlaen at eich gweld oll ar Fai 21 ac i weithio gyda chi i adeiladu’r genedl falch, sofran ac unedig y gall Cymru fod ac y dylai fod.
4-5 Mount Stuart Sq
Cardiff CF10 5FQ
United Kingdom
Map Google a chyfarwyddiadau