Beth sydd ynghudd yn llaid Hinkley?
Beth sydd ynghudd yn llaid Hinkley?
Codwyd amheuon o’r newydd yng nghyfarfod briffio wythnosol Neil McEvoy AC i’r wasg (13/02/2018) am brofion a wnaed am ymbelydredd yn y llaid y bwriada’r cwmni ynni EDF ddympio yn nyfroedd glannau Caerdydd yr haf hwn.
Gwahoddodd Neil McEvoy AC yr ymchwilwyr annibynnol Dr Chris Busby, Tim Deere-Jones a Richard Bramhall i gyflwyno tystiolaeth newydd yn ei gyfarfod briffio wythnosol i’r cyfryngau Cymreig yn y Cynulliad. Yr oeddent yn lleisio pryderon y dylai canfyddiadau blaenorol o ronynnau ymbelydrol yn llaid afonydd ger pwerdai niwclear Hinkley a Sellafield fod wedi eu cyfatebu mewn data i dibynnwyd arnynt i gyhoeddi trwydded EDF i ollwng, ond ni ddigwyddodd hyn.
Yr oeddent yn honni bod hyn yn awgrymu’n gryf fod tystiolaeth bwysig wedi ei golli, ei anwybyddu neu o bosib ei adael allan, gyda phrofion diweddar yn gyfyngedig eu cwmpas ac yn methu darganfod y ‘gronynnau poeth’ o blwtoniwm, wraniwm a niwclidau eraill a all adael gwaddol o effeithiau peryglus. Dywedasant fod y set gyfyngedig o’r samplau mwyaf diweddar wedi eu dinistrio ac nad oes modd ail-gynnal y profion.
Gwnaeth y ddau alwad ar gymhwyso’r egwyddor rhagofal sydd yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol – oherwydd bod risg bosib anhysbys neu ragfynegadwy o waddod ar ollyngfa cyfleuster niwclear lle mae lefelau gronynnau ymbelydrol wedi cynyddu, rhaid cynnal profion digonol ar y llaid cyn i EDF symud 300,000 tunnell i’w dympio mewn dŵr sydd ond 2.8 km o bellter o Gaerdydd.
Dywedodd Neil McEvoy AC “Dwyf i ddim mewn sefyllfa i allu cadarnhau’r canfyddiadau hyn, ond rwy’n credu eu bod yn codi cwestiynau sydd, er i mi ddwyn pwysau ar y cyrff perthnasol a’r llywodraeth Lafur yn y Cynulliad dro ar ôl tro, heb eu hateb o hyd. Os yw’r atebion ar gael, dylid eu gwneud yn gyhoeddus – os nad ydynt, yna ni ddylai’r dympio ddigwydd, hyd nes y cynhelir y profion.
“Mae costau’r profion yn ddibwys o’u gosod yn erbyn y costau iechyd posib petai’r sicrwydd arwynebol a roddwyd yn wallus. Nid yn unig y bydd iechyd pobl ar hyd arfordir de Cymru, a Chaerdydd yn enwedig, mewn perygl, ond peryglir hefyd fywyd gwyllt mewn lleoliad gwarchodedig sydd o bwys rhyngwladol”.
Senedd Sofran i Gymru - Awn amdani!
F'ymateb i gynigion cyllideb ffaeledig Llafur.
Senedd sofran i Gymru, sy'n deddfu ym mhob mater ar gyfer pawb yng Nghymru.
Awn #AMDANI !
href="https://t.co/vcWSSNK3lX">pic.twitter.com/vcWSSNK3lX — Neil McEvoy AM (@neiljmcevoy) January 29, 2018
Cwrdiaid Affrîn Dan Ymosodiad
Mae'n rhyfedd a chreulon o fyd...
Pam nad yw Llywodraeth Llafur yn barod i gondemnio'r ymosodiadau milain ar Gwrdiaid Affrîn a'u cyd-ymladdwyr, yng Ngogledd Syria?
Wedi'r cyfan, y Cwrdiaid sydd wedi bod yn gyrru ISIS o'r wlad a nhw yw cynghreiriaid cynefin Cymru yn y Dwyrain Canol.
Mae Llafur yn barod iawn ei chydymdeimlad fel plaid at rai sy'n dioddef trais, ond nid pawb. Pam?
Mae Michael O'Brien newydd ymuno â Phlaid Cymru
Roedd Michael O'Brien yn un o driawd a gafodd eu beio ar gam am lofruddiaeth, gan ddioddef unarddeg o flynyddoedd yn y carchar am drosedd roedd yn ddiniwed ohoni.
Mae'n parhau i frwydro dros gyfiawnder i eraill.
Yn ddiweddar fe ymunodd â Phlaid Cymru oherwydd ei fod am weld gwleidyddiaeth glân a diwygio'r drefn.
Mae pobl eraill yn ymuno gydag e bob dydd.
Trigolion Rhath yn Ennill Coed-Oediad
TRIGOLION Y RHATH YN ANNOG CNC I DDOD AT EU COED
Bydd Cymuned Nant y Rhath yn parhau i brotestio yn erbyn torri degau o goed aeddfed yn Nant y Rhath a Gerddi Melin y Rhath (Caerdydd) gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Dywedodd Neil McEvoy AC (Aelod Cynulliad Canol De Cymru), ar ôl cyfarfod eto gyda grŵp y trigolion, yn dilyn ail-gychwyn y protestiadau (am 8.00 a.m. ar ddydd Llun Ionawr 8) fod y Gweinidog wedi cytuno i gwrdd â’r ymgyrchwyr (Ionawr 9).
Mae'r naturiaethwr Iolo Williams yn cefnogi trigolion y Rhath wrth amddiffyn eu coed
DIGWYDDIAD: DIWRNOD RHYNGWLADOL y DYNION CYMRU 2017, TACHWEDD 17fed
BYDD Neil McEvoy AC (Canol De Caerdydd) yn cadeirio cyfarfod gydag arbenigwyr gwadd yn trafod agweddau ar hunan-laddiad ymhlith dynion er mwyn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Dynion (Tachwedd 17fed 6.00pm, Ystafelloedd C&D, Tŷ Hywel).
Wrth alw'r cyfarfod, dywedodd Neil McEvoy AC, “Sefydlwyd Diwrnod Rhyngwladol y Dynion, sy'n cael ei gynnal ar draws y byd mewn rhagor na 60 gwlad, (bob blwyddyn oddeutu Tachwedd 19fed) er mwyn cyd-weithio i gyrraedd nodau megis gwella perthnasau teuluol, iechyd a lles dynion ac ymateb i broblemau megis cyfraddau uwch o rai afiechydon mewn dynion.
Fy wythnos yn swyddfa Neil McEvoy AC
Yr wythnos hon, rwyf wedi bod yn gwneud peth profiad gwaith gyda Neil McEvoy a’i staff. Penderfynais wneud y profiad gwaith hwn am fy mod ar hyn o bryd yn astudio Gwleidyddiaeth yn y Brifysgol ac yn dymuno dilyn gyrfa wleidyddol yn y dyfodol. Cyn dechrau, doeddwn i ddim yn siŵr beth yn union oedd swyddi gwleidyddol, gan nad oedd gen i fawr o brofiad o wleidyddiaeth hyd yma.
Neil McEvoy yn apelio yn erbyn ei atal o Grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad
Mae Neil McEvoy AC wedi cadarnhau ei fod wedi apelio yn erbyn ei atal o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Dan reolau sefydlog Plaid Cymru, gall Aelod Cynulliad a ataliwyd o grŵp y Cynulliad apelio at Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid i gael ei ail-dderbyn.
Deiseb am fwd ymbelydrol yn cyrraedd 5,000 llofnod
Mae deiseb i atal trwydded fyddai’n caniatáu i fwd a allai fod yn ymbelydrol o adweithydd niwclear Hinkley Point gael ei ddympio yn nyfroedd Cymru wedi cyrraedd 5,000 llofnod.
Dan reolau’r Cynulliad, bydd yn rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol yn awr gael dadl am atal y drwydded mewn cyfarfod llawn.
Galw am rannu magu plant i fynd i’r afael â dieithrio rhieni yng Nghymru
Mae Neil McEvoy AC ynghyd ag Aelodau Cynulliad o bob cwr o Gymru wedi galw am ddeddfwriaeth i gefnogi rhannu magu plant a mynd i’r afael â dieithrio rhieni.
Cafodd Dieithrio Rhieni ei ddiffinio gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder fel sefyllfa lle mae un rhiant (fel arfer y rhiant y mae’r plentyn yn byw gydag ef/hi) yn ymddwyn mewn ffordd sy’n creu pryder yn y plentyn fel yr ymddengys nad yw’r plentyn am fyw neu dreulio amser gyda’r rhiant arall.