Paula Bradshaw MLA, Andrew Bridgen AS, Ivan Lewis AS a Neil McEvoy AC
Ddoe, cyfarfu dirprwyaeth o ASau a’r Gweinidog newydd yn y Weinyddiaeth Cyfiawnder Paul Maynard AS i drafod pwnc Dieithrio Rhieni a methiant y system bresennol o gyfraith teulu i amddiffyn dioddefwyr, yn blant ac oedolion. Yn rhy aml, fu gan blant ddim cysylltiad â’r rhiant nad yw’n byw gyda hwy am amser maith, er na fu unrhyw dystiolaeth o gamdriniaeth nac o niwed.
I'm on my way to London to meet with the Parliamentary Under Secretary of State at the Ministry of Justice. He wants to talk about #ParentalAlienation, which has just been recognised by the @WHO. pic.twitter.com/JdSDGUwVqH
— Neil McEvoy AM (@neiljmcevoy) June 12, 2019
Yr oedd y ddirprwyaeth drawsbleidiol o senedd y DG a Chynulliadau Gogledd Iwerddon a Chymru yn cynnwys Ivan Lewis AS (Annibynnol), Andrew Bridgen AS (Ceidwadol), Paula Bradshaw MLA (Plaid yr Alliance) a Neil McEvoy AC (Annibynnol).
Rhoes y ddirprwyaeth gyflwyniad ffurfiol gan ymgyrchwyr ‘Dear Sophie’ i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i’w ystyried fel rhan o’u hadolygiad presennol o’r System Cyfiawnder teulu. Cytunodd y Gweinidog i ofyn i’r panel o arbenigwyr sy’n goruchwylio’r adolygiad i ystyried mater Dieithrio Rhieni. Bydd yr ASau hefyd yn ceisio cyfarfod â’r panel.
Cytunwyd hefyd y bydd yr ASau yn ceisio cyfarfod gyda’r Arglwydd Ustus Cobb sydd yn cynnal adolygiad o’r system bresennol ar ran Llywyddion Adran Teulu’r Llysoedd.
Ar gais yr ASau, cytunodd y Gweinidog i gwrdd â chynrychiolwyr rhieni a ddieithriwyd yn nes ymlaen yn y flwyddyn i glywed yn uniongyrchol am eu profiadau trawmatig.
With @PaulaJaneB & @ABridgen. Astonished by how consistently children are let down in Wales, Northern Ireland & England when it comes to #ParentalAlienation. Thanks to @IvanLewis_MP for organising. The UK Government is starting to listen. pic.twitter.com/tLucJWK1lk
— Neil McEvoy AM (@neiljmcevoy) June 12, 2019
Dywedodd Ivan Lewis Aelod Seneddol De Bury:
“Mae dieithrio rhieni yn drychineb dynol a all achosi niwed difrifol i blant a rhieni fel ei gilydd. Yr oedd y cyfarfod hwn ac ymateb cadarnhaol y Gweinidog yn gam pwysig ymlaen. Byddwn yn awr yn adeiladu ar hyn trwy geisio newidiadau priodol i’r ffordd y mae llysoedd teulu yn gweithredu fel bod dieithrio rhieni yn cael ei gydnabod fel pwnc difrifol sydd angen agwedd newydd.”
Dywedodd Andrew Bridgen Aelod Seneddol Gogledd Orllewin Sir Gaerlŷr:
“Yr oedd yn dda bod y Gweinidog a benodwyd o’r newydd, Paul Maynard AS, wedi gwrando ar ein cyflwyniad. Mae’n amlwg ei fod yn sylweddoli bod hwn yn bwnc gwirioneddol, sydd yn achosi loes i blant a’u rhieni a ddieithriwyd, a chaiff hyn ei gynnwys yn yr ymgynghoriad ar ddiwygio cyfraith teulu fel y saif ar hyn o bryd”.
Dywedodd Paula Bradshaw Aelod o’r Cynulliad Deddfwriaethol (Gogledd Iwerddon) dros Dde Belfast:
“Mae modd osgoi dieithrio plant a rhieni o ganlyniad i weithredoedd y llysoedd os oes polisi a chanllawiau clir i’r farnwriaeth. Bydd angen gweithio ar hyn ac ail-strwythuro ymysg asiantaethau cefnogi, megis Cafcass; fodd bynnag, o ran anghenion tymor-byr a thymor-hir plant sydd wedi eu dal yn y sefyllfa enbyd hon, bydd yn werth yr ymdrech. I mi, mae i un rhiant fynd ati’n fwriadol i ddirmygu’r rhiant arall wrth y plentyn/plant er mwyn achosi dieithrio yn ffurf ddifrifol ar gamdriniaeth ddomestig, a gorau po gyntaf i gymdeithas yn ehangach, a’r farnwriaeth yn benodol, yn cydnabod yr hyn ydyw.”
Dywedodd Neil McEvoy Aelod Cynulliad Canol De Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:
“Mae’n wych ein bod yn dechrau gweld peth cynnydd ar ddieithrio rhieni. Mae’n effeithio ar gymaint o bobl: mamau, tadau, neiniau a theidiau a’r plant eu hunain.
Rwy’n hyderus y bydd Llywodraeth y DG yn parhau i wrando ar ôl ein cyfarfod cyntaf cadarnhaol gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Fe wnaeth yr Is-ysgrifennydd Gwladol roi sicrwydd i ni y byddai mwy o drafodaethau ac yr wyf yn croesawu hynny. Yr hyn oedd yn amlwg o roi tystiolaeth oedd bod dieithrio rhieni yn brofiad cyffredin nid yn unig yng Nghymru, ond yn Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru gymryd sylw o’r cyfarfod hwn a dechrau cymryd dieithrio rhieni o ddifrif.”
Nodyn i Olygyddion
Mae Dieithrio Rhieni fel arfer yn digwydd mewn ysgariad chwerw lle mae cyswllt rhwng plentyn a’r rhiant nad yw’n byw gydag ef yn dod i ben. Mae hyn er nad oes tystiolaeth o unrhyw gamdriniaeth na niwed, ac y mae’n aml yn cael ei achosi gan ddylanwad y rhiant arall. Mae’n beth cyffredin i’r plentyn ailgynnau’r cyswllt yn ei arddegau neu fel oedolyn ifanc wedi iddynt adael cartref.
Gall hyn gael effaith seicolegol andwyol yn y tymor hir ar y plentyn; gall barhau i fywyd oedolyn ac y mae’n aml yn arian at broblemau iechyd meddwl difrifol i’r rhiant a ddieithriwyd.
Mewn datblygiad newydd, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn ddiweddar wedi mabwysiadu Dieithrio Rhieni (DRh) fel rhybudd iechyd, gyda ICD 11 yn benodol yn diffinio DRh fel her iechyd a allai fod yn ddifrifol. Ar sail y dystiolaeth, mae’n gyfrannwr pwysig iawn at ddirywiad mewn iechyd.