Rhoes Llywodraeth Cymru ‘gefnogaeth lawn’ i Bont Tywysog Cymru ‘o’r cychwyn cyntaf’.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi cadarnhau fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi eu cefnogaeth lawn ‘o’r cychwyn cyntaf’ i ail-enwi Ail Bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru.

Creodd ail-enwi’r bont gryn gythrwfl yng Nghymru, gyda bron i 40,000 o bobl yn llofnodi deiseb yn erbyn yr enw. Cynhaliwyd protestiadau hefyd yng Nghymru a’r Unol Daleithiau, yn galw am ymgynghori a phobl Cymru ynghylch enw’r bont.

Ysgrifennodd Neil McEvoy, Aelod Cynulliad Annibynnol dros Ganol De Cymru at yr Ysgrifennydd Gwladol ar ddechrau Ebrill, yn galw am ganslo’r ail-enwi ac am i ymgynghoriad llawn gael ei gynnal.

Cyflwynodd Mr McEvoy hefyd gwestiwn amserol i ofyn am ddatganiad ar rôl Llywodraeth Cymru yn ail-enwi’r bont. Dywedodd ysgrifennydd Cabinet Cymru dros Seilwaith, Ken Skates AC, fod Llywodraeth y DG wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog ym mis Medi 2017 ac “nad oedd gan y Prif Weinidog wrthwynebiad i’r cynnig”.

Fodd bynnag, yn llythyr yr Ysgrifennydd Gwladol at Mr McEvoy, honnodd ei fod wedi ‘gohebu’n rheolaidd a Llywodraeth Cymru’ dros flwyddyn lawn. Aeth yn ei flaen i ddweud fod ‘Llywodraeth Cymru wedi rhoi eu cefnogaeth lawn i’r penderfyniad hwn o’r cychwyn cyntaf’.

Ers hynny, pleidleisiodd Aelodau Cynulliad Llafur a Cheidwadol ynghyd yn erbyn cynnig gan Blaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol oedd yn galw am i Lywodraeth y DG lansio ymgynghoriad ar y newid enw.

Meddai Neil McEvoy AC:

“Ysgrifennais at Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y gobaith y gellid ymgynghori â phobl Cymru ar enw’r bont. Yr oedd y 40,000 o bobl a anwybyddwyd gan Lywodraeth Cymru eisiau rhywbeth oedd yn adlewyrchu’r ddemocratiaeth fodern, hyderus yr ydym yn ceisio ei adeiladu.

“Ond daeth yn glir erbyn hyn fod Llafur a’r Ceidwadwyr yn gweithio ynghyd i atal ein cenedl rhag cael ei holi ynghylch enw’r prif borth i’n gwlad.

“Byddaf yn ysgrifennu at y Llywydd i weld a gamarweiniodd yr Ysgrifennydd Cabinet y Cynulliad. Mae honni na leisiodd Llywodraeth Cymru unrhyw wrthwynebiadau yn wahanol iawn i ymgynghori dros gyfnod o flwyddyn a rhoi cefnogaeth lwyr o’r cychwyn cyntaf.

“Rwyf hefyd wedi cyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth am ohebiaeth rhwng y ddwy lywodraeth fel y gallwn ganfod pwy sy’n dweud y gwir.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.