Manylion allweddol
Mae polisi preifatrwydd y wefan hon yn disgrifio sut y mae Neil McEvoy a’i dîm yn gwarchod ac yn gwneud defnydd o’r wybodaeth a ddarparwch chi pan fyddwch yn defnyddio’r wefan.
Os gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon, caiff ei ddefnyddio yn unig yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y polisi hwn.
Caiff y polisi ei gyfoesi o bryd i’w gilydd. Cyhoeddir y fersiwn ddiweddaraf ar y dudalen hon.
Cyfoeswyd polisi preifatrwydd y wefan ar 1 Tachwedd 2017.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi hwn, e-bostiwch neil.mcevoy@assembly.wales neu ysgrifennwch at 321 Heol y Bontfaen Ddwyreiniol, Caerdydd, CF5 1JD.
Cyflwyniad
Rydym yn casglu ac yn defnyddio peth gwybodaeth am unigolion er mwyn galluogi rhai gweithrediadau ar y wefan hon.
Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth er mwyn deall yn well sut mae ymwelwyr yn defnyddio’r wefan hon ac i roi gwybodaeth amserol a pherthnasol iddynt.
Pa ddata y byddwn yn gasglu
Cesglir data trwy gyfrwng cwcis a ddarperir gan Google Analytics. Mae’r holl wybodaeth yn ddienw ac ni all Neil McEvoy na’i dîm fynd at fanylion personol. Wrth danysgrifio i lythyrau newyddion, gwneud awgrymiadau, cyflwyno ceisiadau am help a chyngor neu lofnodi deisebau, gofynnir i chi gyflwyno gwybodaeth bersonol. Mae hyn fel arfer ar ffurf eich enw, cyfeiriad, e-bost a rhif ffôn.
Sut yr ydym yn denfyddio’r data hwn
Mae casglu data yn ein helpu i ddeall traffig i’r wefan ac i wella’r cynnwys. Mae hefyd yn caniatáu i ni gysylltu â chi gyda gwybodaeth bersonol yr ydych chi’n ei roi o’ch gwirfodd.
Yn benodol, gallwn ddefnyddio data:
- Ar gyfer ein cofnodion mewnol ni
- I wella’r wefan a gwaith gwleidyddol
- I gysylltu â chi mewn ymateb i ymholiad penodol
- I addasu’r wefan i chi
- I anfon e-byst hyrwyddo, llythyrau a negeseuon testun am waith gwleidyddol Neil ac etholiadau’r dyfodol
- I alw am waith gwleidyddol Neil ac i drafod etholiadau’r dyfodol
- I gysylltu â chi trwy e-bost, llythyr, neges testun a ffôn am resymau ymchwil farchnad
Cwcis a sut y byddwn yn eu defnyddio
Ffeil fechan yw cwci sy’n cael ei gosod ar yriant caled eich cyfrifiadur. Mae’n galluogi ein gwefan i adnabod eich cyfrifiadur wrth i chi edrych ar wahanol dudalennau ar y wefan hon.
Mae cwcis yn caniatáu i wefannau a chymwysiadau storio eich dewisiadau er mwyn cyflwyno cynnwys, dewisiadau neu weithrediadau sy’n benodol i chi. Maent hefyd yn ein galluogi i weld gwybodaeth fel faint o bobl sy’n defnyddio’r wefan a pha dudalennau maent yn dueddol o ymweld â hwy.
Rydym yn defnyddio cwcis i ddadansoddi ein traffig gwe gan ddefnyddio pecyn dadansoddeg. Mae data defnyddio wedi’i gydgrynhoi yn ein helpu i wella cynnwys y wefan, dyluniad y strwythur a’r swyddogaethau.
Nid yw cwcis yn caniatáu i ni fynd at eich cyfrifiadur nac unrhyw wybodaeth amdanoch chi, ar wahân i’r hyn y dewiswch chi rannu â ni.
Rheoli gwybodaeth amdanoch chi
Pan fyddwch yn llenwi ffurflen ac yn rhoi eich manylion ar y wefan hon, yr ydych yn cytuno i Neil McEvoy gysylltu â chi trwy e-bost, llythyr, ffôn a negeseuon testun. Gall eich manylion hefyd gael eu rhannu gyda Phlaid Cymru at ddibenion marchnata.
Os ydych eisiau optio allan gallwch ddefnyddio’r cyfleuster dad-danysgrifio am e-bost a negeseuon testun. Os ydych am optio allan o bob gohebiaeth, e-bostiwch neil.mcevoy@assembly.wales neu ysgrifennwch at 321 Heol y Bontfaen Ddwyreiniol, Caerdydd, CF5 1JD.
Ni wnawn fyth brydlesu, dosbarthu na gwerthu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon y tu allan i Blaid Cymru.
Mae unrhyw wybodaeth bersonol a ddaliwn amdanoch yn cael ei storio a’i brosesu dan ein polisi diogelu data, yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.
Diogelwch
Byddwn yn wastad yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel.
Er mwyn atal datgelu eich gwybodaeth heb awdurdod neu adael i bobl heb awdurdod fynd ato, rydym wedi rhoi camau diogelwch corfforol ac electronig cadarn ar waith.
Yr ydym hefyd yn dilyn gweithdrefnau llym i sicrhau ein bod yn gweithio gyda phob data personol yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.
Dolenni o’r wefan hon
Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill.
Byddwch cystal â nodi nad oes gennym reolaeth dros wefannau y tu allan i’r parthau neilmcevoy.wales a neilmcevoy.cymru. Os byddwch yn darparu gwybodaeth i wefan y mae gennym ni ddolen ati, nid ni sydd yn gyfrifol am ei gwarchod na’i phreifatrwydd.