Mae fy llythyr at Blaid Cymru, isod, yn esbonio fy rhesymau dros dynnu fy nghais i ail-ymuno â Phlaid Cymru yn ei ôl.
Gan ystyried y ffordd mae’r broses wedi ei gweinyddu, fe ddes i’r casgliad mai fy eithrio am fyth fyddai unig ddyfarniad y panel. I sôn am rai achosion yn unig o blith fy ngofidion; cefais wybod ond deuddydd gwaith cyn y panel y caf drefnu cyfreithiwr i’m cynrychioli. Dyma gais a wnes gyntaf hyd yn oed cyn imi gael fy eithrio yn y lle cyntaf. Cefais wybod pwy fyddai aelodau’r panel y prynhawn cyn i’r diwrnod penodedig ac yn eu plith, rhai sydd wedi mynegi ar goedd eu bod eisoes yn elyniaethus tuag ataf.
Credaf y byddai goddef i’r panel hwn fy eithrio yn peri rhwygiadau a niwed difrifol i Blaid Cymru a’r mudiad cenedlaetholgar ar adeg pan fo angen i ni gyd-dynnu.
Mae cryn ddryswch wedi lledu ynghylch y rhesymau gwreiddiol dros fy eithrio ac yn fwy felly dros y drefn ar gyfer prosesu fy nghais i’m hadfer i aelodaeth. Mae aelodau cyffredin yn gwybod bod fy ngweithgaredd, trwy gydol cyfnod fy eithrio, wedi arwain at gynnydd mewn aelodaeth, cynnydd yn y diddordeb mewn sofraniaeth a gwireddu llwyddiant etholiadol i’r Blaid yng Nghaerdydd.
Mae’n amlwg hefyd bod gennyf gefnogaeth sylweddol aelodau led-led Cymru sydd am fy ngweld yn dychwelyd i’r blaid. Dwi ddim yn barod i droi fy nghefn ar yr aelodau hyn a gadael i banel o bobl wedi’u dethol gyda hanes o elyniaeth ataf eisoes, i fy eithrio am fyth.
Mae angen i ni dynnu at ein gilydd fel plaid, er mwyn ennill yn 2021 ac er mwyn y cyfle hefyd i drechu Prif Weinidog Cymru a chipio sedd gyntaf Plaid Cymru yn y brifddinas.
Dwi’n annog aelodau i aros yn y Blaid ac ymdrechu i’w gwella.
Byddaf yn cynnig i’r blaid drefnu cyfryngwr rhyngom fel ein bod yn gallu datrys y sefyllfa hon a chyfeirio’r blaid at y man lle y gallem ennill yn 2021. Ni allem barhau i chwarae’n ofer gan adael i wahaniaethau personol ein rhannu o hyd. Mae’n bryd i ni wneud yr hyn sy’n iawn dros y blaid a’r wlad.